Original upload date: Sat, 27 Dec 2008 00:00:00 GMT
Archive date: Mon, 06 Dec 2021 17:39:41 GMT
Bethesda 17 Caerdydd 55
20/12/2008
Diwrnod anfarwol i hogia' Pesda wrth iddynt wynebu clwb y Brifddinas ar Dôl Ddafydd.
Dechreuwyd y gweithgareddau efo arddangosfa gan chwaraewyr mini y clwb. Diddo
...
rwyd y dorf gan Seindorf Llanrug a chafwyd haka Gymraeg gan Bill Huaki cyn y chwib gyntaf.
Er nad oedd disgwyl i'r clwb lleol ennill yr erbyn y tim rhan broffesiynnol, llwyddwyd i sgorio 3 chais yn eu herbyn.
Rhyng-gipiodd Mathew Parry y bêl rhwng 2 ganolwr Caerdydd i sgorio rhwng y pyst gan wneud y trosiad yn un hawdd iddo'i hun. Rhedodd Martyn Williams 60 metr ar hyd yr asgell i sgorio'r ail ac roedd yr un olaf gan Steven Roberts yn un i'w gofio. Dwynodd James Roberts y bêl oddi ar flaenwyr Caerdydd a daliodd Paul Thomas y bêl yn ddigon hir i ryddhau Steve Roberts. Ochr gamodd y bachwr gefnwr Caerdydd i sgorio cais rhyfeddol.
Er i'r ymwelwyr sgorio 9 cais yn eu herbyn, diwrnod i'r tim lleol oedd hwn. Diwrnod a gaiff ei gofio am flynyddoedd i ddod - diolch i'r chwaraewyr, hyfforddwyr, merched y bwyd, y cefnogwyr a'r swyddogion sydd wedi rhoi oriau o waith am ddim i hyrwyddo rygbi cymunedol.